Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mercher, 2 Mai 2018

Amser: 09.18 - 12.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4796


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Lynne Neagle AC (Cadeirydd)

Hefin David AC

John Griffiths AC

Llyr Gruffydd AC

Darren Millar AC

Julie Morgan AC

Mark Reckless AC

Tystion:

Gareth Pierce, Prif Weithredwr, CBAC

Mike Ebbsworth, CBAC

Philip Blaker, Cymwysterau Cymru

Emyr George, Cymwysterau Cymru

Staff y Pwyllgor:

Llinos Madeley (Clerc)

Gareth Rogers (Ail Glerc)

Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc)

Joe Champion (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown. Nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.

1.2        O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Darren Millar AC fod ei ferch yn ymddangos yn y fideo a ddangoswyd ar ddechrau'r cyfarfod a'i fod yn llywodraethwr yn Ysgol Santes Ffraid.

 

</AI1>

<AI2>

2       Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion - cyfweliadau â phobl ifanc (fideo)

2.1 Gwyliodd y Pwyllgor fideo fer.

</AI2>

<AI3>

3       Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion - sesiwn dystiolaeth

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymwysterau Cymru a CBAC.

</AI3>

<AI4>

4       Papurau i’w nodi

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
</AI4>

<AI5>

</AI11>

<AI12>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI12>

<AI13>

6       Blaenraglen Waith y Pwyllgor - Sesiwn gynllunio strategol

6.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer y tymor hir. Cytunodd y byddai darnau penodol yn cael eu cwmpasu a'u trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i Fagloriaeth Cymru, gan lansio ymgynghoriad cyn toriad yr haf.

 

6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Newyddenedigol, yn enwedig mewn perthynas â'r trydydd rhifyn o'r safonau newyddenedigol.

 

6.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am eglurhad o'r sefyllfa o ran cyllid ar gyfer y Grant Darparu Plant a Theuluoedd.

 

6.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y Cod Trefniadaeth Ysgolion sydd ar ddod.

 

6.6 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i dynnu sylw at bryderon ynghylch y defnydd o ddata dros dro gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau drafft.

 

6.7 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlinellu rhai materion allweddol y mae am eu hystyried fel rhan o'r cylch cyllideb nesaf, gan gynnwys ei ddisgwyliadau y darperir Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y Gyllideb Ddrafft 2019 - 2020.

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>